Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig | Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee

Ailfeddwl am fwyd yng Nghymru | Rethinking food in Wales

 

RFW 14

 

Ymateb gan : Sgema Cyf

Evidence from : Sgema Cyf

 

1.1 Os ydym yn tybio bod diffiniad o ddiwylliant bwyd yn cyfeirio at yr arferion, yr agweddau, a'r credoau, yn ogystal ag at y rhwydweithiau a'r sefydliadau sy'n amgylchynu'r gwaith o gynhyrchu, dosbarthu, a bwyta bwyd, yna gallwn, yn rhesymol asesu ein sefyllfa yng Nghymru mewn perthynas â'n sector bwyd a diod. Dylai hyn ein galluogi i roi peth ystyriaeth i ddatblygiad ein diwylliant bwyd yn ddiweddar, ynghyd ag effaith ymyraethau gan y sectorau cyhoeddus a phreifat yn y sector bwyd a diod.

1.2 Mae trosolwg o'r strategaethau a'r polisïau cyfredol, sy'n effeithio ar y sector amaeth, bwyd a diod, yn fan cychwyn defnyddiol. Ymhlith y strategaethau a'r polisïau hyn y mae Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010:2020 – Strategaeth Fwyd i Gymru; Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod; Partneriaeth ar gyfer Twf: Strategaeth Twristiaeth Croeso Cymru 2013-2020; Y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Diwydiant Cig Coch Cymru; Cynllun Gweithredu Strategol Garddwriaeth Cymru, Strategaeth y Sector Llaeth; Cynllun Gweithredu Twristiaeth Fwyd ar gyfer Cymru 2015-2020; a Strategaeth Bwyd Môr Cymru. Dylid hefyd ddefnyddio Rhaglen y Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010-2020 Food for Wales, Food from Wales 2010-2020

foodanddrinkskills.co.uk/.../Welsh%20Government%20Food%20&%20Drink%20Skills...

 

Cynllun Gweithredu | Bwyd a Diod – Busnes Cymru

https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/cynllun-gweithredu-0

 

Llywodraeth Cymru | Partneriaeth ar gyfer Twf: strategaeth ar gyfer twristiaeth 2013 ...

gov.wales/topics/culture-tourism-sport/tourism/partnership-for-growth-strategy/?...

 

Cynllun Gweithredu Strategol Diwydiant Cig Coch Cymru 2015-2020

hccmpw.org.uk/index.php/tools/required/files/download?fID=5090

 

Llywodraeth Cymru | Y Diwydiant Garddwriaeth

gov.wales/topics/environmentcountryside/.../foodpolicyandstrategy/horticultureen/?...

 

Llywodraeth Cymru | Y Diwydiant Llaeth

gov.wales/topics/environmentcountryside/.../foodpolicyandstrategy/dairyindustry/?la

 

Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd Cymru 2015-2020 – Busnes Cymru

https://businesswales.gov.wales/...wales/.../tourism/Food-Tourism-Action-Plan-2015-2...

 

Strategaeth Bwyd Môr Cymru – Pysgod Môr

www.seafish.org/media/1659099/wales_seafood_strategy.pdf

 

Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020

gov.wales/.../ruraldevelopment/wales-rural-development-programme-2014-2020/?...

Llywodraeth Cymru | Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/future-generations-act/?skip=1&lang=cy

 

1.3 Mae'r holl strategaethau hyn, ynghyd â'u cynlluniau gweithredu, yn nodi amcanion a chamau gweithredu gwahanol, nad ydynt, yn aml, yn cyd-fynd, i ddarparu polisi cenedlaethol cydlynol. Ond mae'n werth nodi un ystyriaeth sylfaenol, fel y nodir yn Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010:2020, o ran ailfeddwl am fwyd o Gymru:

‘Mae effaith ein system fwyd ar yr amgylchedd, iechyd ac ar gymdeithas wedi dod yn fwy a mwy amlwg ac mae’r pryderon am ddiogelwch ein cyflenwadau bwyd wedi cynyddu. Mae’r pwysau ar dir, dŵr, ynni, poblogaeth a bioamrywiaeth am adnoddau eisoes yn drwm, ac mae’r her anferthol i addasu a lliniaru’r newid yn yr hinsawdd, a’r gystadleuaeth am adnoddau yn cynyddu’r pwysau hwnnw.’

Mae Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010:2020 yn nodi gweledigaeth bellgyrhaeddol ar gyfer bwyd yng Nghymru, gan amlinellu cyfeiriad clir ar gyfer twf diwydiant bwyd Cymru mewn modd cynaliadwy a phroffidiol erbyn 2020.

1.4 Ni fyddai'n beth afresymol i'r pwyllgor ystyried strategaethau a pholisïau cyn 2010, ac adolygu gwaith cynharach ar Gweithgareddau Ymchwilio a Monitro 1999-2009, a gyflwynwyd i'r is-bwyllgor Materion Gwledig ym mis Chwefror 2009 - gan ei bod yn ddefnyddiol deall lle rydym wedi bod, er mwyn gwybod i le rydym yn mynd! Ond, i ddibenion y cyflwyniad hwn, mae'n werth rhoi sylw i adolygiad a gynhaliwyd gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru – Polisi Bwyd fel Polisi Cyhoeddus: Adolygiad o Strategaeth a Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru gan Terry Marsden, Kevin Morgan ac Adrian Morley, Prifysgol Caerdydd.

Polisi Bwyd fel polisi Cyhoeddus – Y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru

ppiw.org.uk/files/2016/06/PPIW-Report-Food-Policy-as-Public-Policy.pdf

1.5 Gofynnodd y cyn Weinidog Cyfoeth Naturiol a'r cyn Ddirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd i'r Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru (PPIW) roi cyngor ynghylch a oedd Strategaeth Fwyd Llywodraeth Cymru yn ddigon cynhwysfawr a chyfredol. Roedd yr adolygiad yn gwneud nifer o argymhellion, sydd, yn ôl pob golwg, wedi cael eu hanwybyddu. Cynghorir y dylid mynd yn ôl at yr argymhellion wrth ailfeddwl am fwyd yng Nghymru. Yn eu casgliad, aethant ati i ddweud bod gwendidau a rhwystrau o ran llywodraethu polisi bwyd yng Nghymru ers 2010, ynghyd â gwell dealltwriaeth erbyn hyn o'r rhagdueddiadau rhyng-gysylltiedig sy'n sail i systemau bwyd cynaliadwy, yn golygu bod yna angen brys i ddatblygu gweledigaeth a strategaeth ffres a chlir ar gyfer y system fwyd yng Nghymru.

1.6 Yn eu casgliad, aethant ati hefyd i ddweud bod angen cynnwys deiet, ffermio a bwyd cynaliadwy mewn strategaeth gyffredinol wrth galon polisi Llywodraeth Cymru. At hyn, dywedasant fod angen ategu hyn, a'i gysylltu â fframwaith partneriaeth datganoledig ledled y gymuned fwyd polisi a rhanddeiliaid ehangol, sydd 'nawr yn preswylio yn y maes mwy hwn.

1.7 Mae trafodaethau Brexit hefyd yn preswylio yn y maes hwn, ac mae Food Brexit: time to get real, Tim Lang, Erik Millstone a Terry Marsden, Gorffennaf 2017, sy'n friff ar gyfer Brexit, yn adlewyrchu'r goblygiadau yn glir. Daw'r adroddiad o safbwynt y DU, ond eu prif neges yw y gallai goblygiadau Brexit ar gyfer bwyd fod yn enfawr. Bydd hyn yn berthnasol p'un a fydd Brexit caled neu Brexit meddal yn cael ei weithredu.

 

A Food Brexit: time to get real – Prifysgol Sussex

https://www.sussex.ac.uk/.../file.php?...foodbrexitreport-langmillstonemarsden-july20...

 

Maent hefyd yn dadlau y dylai fframwaith polisi bwyd ar gyfer y DU roi ystyriaeth arbennig i'r cenhedloedd datganoledig, a hynny mewn polisi rhanbarthol wedi'i ailwampio. Trafodaeth nad yw wedi dod i'r wyneb hyd yma. Rhaid i'r drafodaeth hon fod yn flaenoriaeth os ydym am alluogi buddsoddiad parhaus i'r sector gan y sector cyhoeddus.

1.8 Mae hyn yn ein harwain at y cwestiwn, 'Ble y gall y rhwydweithiau a'r sefydliadau sy'n amgylchynu'r gwaith o gynhyrchu, dosbarthu a bwyta bwyd yng Nghymru ddiwallu anghenion y degawd nesaf hwn?' Mae hefyd yn darparu isadeiledd y diwydiant i dyfu a ffynnu. Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yn 2016 gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru (PPIW) yn awgrymu bod yna ddiffygion difrifol yn ein dull o weithredu'r polisi.

1.9 Gadewch i ni ystyried a oes gennym y blociau adeiladu hanfodol, y blociau y mae eu hangen i feithrin ein diwylliant bwyd. Ar hyn o bryd, nid oes yna ymgysylltu cynhwysfawr ar lefel genedlaethol na rhanbarthol â rhanddeiliaid o bob cwr o'r system bwyd-amaeth. Os ydym am ymgysylltu'n effeithiol â'r diwydiant, ynghyd â'r rhwydweithiau a'r sefydliadau yn y diwydiant bwyd-amaeth, mae'n rhaid i ni ailystyried sut y gall sectorau o'r diwydiant a buddiannau eraill gymryd rhan yn y trafodaethau hyn. Nid oes gan Fwrdd cyfredol Diwydiant Bwyd a Diod Cymru yr annibyniaeth na'r adnoddau i gyflawni'r dasg honno yn effeithiol. Mae ymgysylltiad yn elfen bwysig o sut y caiff polisïau eu cyflwyno, a sut y maent yn allweddol o ran sicrhau bod y strategaethau, y camau gweithredu a'r rhaglenni cymorth yn cael eu darparu'r effeithiol. Rhaid cael agenda a rennir rhwng sefydliadau a rhwydweithiau os yw ein diwylliant bwyd am ffynnu. Ni ellir cyflawni hyn oni bai fod yr holl gadwyn fwyd yn cymryd rhan, o ffermio i letygarwch.

1.10 Nid oes yna le i'r diwylliant ffynnu ar hyn o bryd, ac mae hyn yn rhannol egluro'r diffyg aliniad rhwng polisi a gweithredu. Dim ond gwaethygu'r sefyllfa a wnaeth y penderfyniad i ganolbwyntio'r Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod ar weithredoedd y tu hwnt i gât y fferm a'r effaith economaidd, a hynny ar draul y sbardunau eraill a amlinellir yn strategaeth 2010, er enghraifft y diwylliant bwyd, cynaliadwyedd a lles, ac integreiddio. Nid yw'r Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod cyfredol yn addas ar gyfer y dyfodol, wrth i ni geisio nodi'r amodau ar gyfer gweithredu ein diwydiant bwyd-amaeth yn dilyn Brexit.

1.11 Mae'n ymddangos hefyd bod gennym ddiffyg saernïaeth brand gynhwysfawr ar gyfer bwyd o Gymru, sy'n ein galluogi i osod bwyd o Gymru yn y farchnad gartref yn ogystal â'r farchnad ryngwladol. Erbyn hyn, mae'n ymddangos bod diwedd y brand Gwir Flas Cymru, yn dilyn buddsoddiad cyhoeddus a phreifat sylweddol, yn gam gwag. Mae angen i ni benderfynu a ydym am sicrhau bod ein diwylliant bwyd yn wahanol i genhedloedd a rhanbarthau eraill yn y DU, gan adlewyrchu ffurfiau ac arferion cynaliadwy o ran cynhyrchiad amaethyddol a'r amgylchedd sy'n sail i'r gadwyn fwyd. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i ni gael strwythurau rheoli brand clir, cydlynol, ynghyd â negeseuon credadwy sy'n cadarnhau safle'r brand. Gellir cyflawni hyn, a dylai adlewyrchu'r gadwyn fwyd gyfan.

1.12 Mae brandiau cig oen a chig eidion Cymru wedi llwyddo i gyflawni hyn, tra bo Bwyd a Diod Cymru yn parhau'n ddatganiad disgrifiadol, nad oes ganddo'r awdurdod fel sail i frand. Yn yr un modd, mae mabwysiadu Gwobrau Great Taste unwaith eto yn gosod ein diwylliant bwyd ymhellach i ffwrdd oddi wrth ddiwylliant bwyd ar wahân. Ar y llaw arall, roedd Gwobrau Gwir Flas yn dathlu'r arferion, yr agweddau, y rhwydweithiau a'r sefydliadau hynny a oedd yn amgylchynu'r gwaith o gynhyrchu, dosbarthu a bwyta bwyd yng Nghymru ac o Gymru. Mae dyfodol yr enw gwarchodedig Ewropeaidd a gyflawnwyd gan nifer o'r cynhyrchion yn ansicr, ac os caiff marc Prydeinig ei roi yn ei le, bydd hyn, unwaith eto, yn gwanhau sefyllfa ein diwydiant bwyd-amaeth yng Nghymru.

 

Gwobrau Gwir Flas Cymru » Freshwater UK

www.freshwater-uk.com/services/events/case-studies/wales-the-true-taste-awards

 

1.13 Mae'r materion hyn yn codi cwestiynau allweddol o ran ailfeddwl am fwyd yng Nghymru. Materion strwythurol yw'r rhain, ac mae angen rhoi sylw iddynt wrth bennu capasiti a gallu'r sector i ddiwallu'r gofynion cystadleuol ar ein diwylliant bwyd o ran wynebu'r heriau, 'nawr ac yn y dyfodol, heriau sy'n cynnwys newid hinsawdd, tlodi, anghydraddoldeb o ran iechyd, swyddi a thwf. Mae diffyg eglurder yn arwain yn unig at ymyraethau a rhaglenni darniog gan y llywodraeth, ynghyd ag ansicrwydd a diffyg ymgysylltu gan y diwydiant bwyd. Mae angen deall a mapio'r cyfeiriad yr ydym yn dymuno mynd â'n system fwyd iddo ar ôl Brexit; dim ond bryd hynny y byddwn ni'n gallu blaenoriaethu buddsoddiad a chanolbwyntio ar y meysydd hynny lle mae angen ymyrraeth y sector cyhoeddus.

 

Sgema cyf

gweithio gyda syniadau.working with ideas